Denbigh Community Archive
Welcome to the Denbigh Community Archive

Yn yr Adran Yma:

Mae Dinbych (sy’n golygu, ‘caer fechan’) yn un o drefi mwyaf hanesyddol Gogledd Cymru. Daw tarddiad enw Dinbych o’r gair ‘din’, sef bryn caerog a’r bachigyn ‘bach’ sy’n uno yn y Gymraeg i ffurfio ‘Dinbych’.

Sonnir am y dre mewn dogfennau yn y blynyddoedd yn dilyn Concwest y Normaniaid pan ddaeth yn dre ar y ffin, i warchod y ddynesfa at Fryniau Hiraethog ac Eryri. Mae’n debyg mai Dinbych oedd lleoliad aneddiad caerog yn ystod meddaniaeth y Rhufeiniaid yn y ddeuddegfed ganrif. Yma fu pencadlys Dafydd ap Gruffydd, brawd Llewelyn, tywysog olaf Cymru. Yn dilyn Concwest y Normaniaid ym 1282 rhoddwyd Arglwyddiaeth Dinbych i Henry de Lacy, a awdurdodwyd adeiladu Castell Dinbych. Rhoddwyd y Siarter gyntaf i’r dre gan Gwnstabl y Castell yn ystod teyrnasiad Edward I a chafwyd nifer ar ôl hyn drwy’r blynyddoedd. Parhaodd Dinbych yn Fwrdeistref tan newidiadau llywodraeth leol 1974.

Datblygodd y dre ganoloesol law yn llaw ac adeiladu’r castell, a’i chynnwys o fewn muriau’r dref. Dros y canrifoedd canlynol bu cystadlu ffyrnig am Ddinbych rhwng y Cymry a’r Saeson, ac yn 1563 rhoddwyd y Castell ac Arglwyddiaeth Dinbych i ffefryn y Frenhines Elisabeth, sef Robert Dudley, Iarll Caerlŷr, a gafodd ei enwi fel Llywodraethwr Cyffredin Gogledd Cymru. Efe oedd yn gyfrifol am gomisiynu Neuadd y Sir sydd erbyn hyn yn gartref i Lyfrgell y Dref. Yn 1643 Dinbych oedd man lloches i warchodlu o Frenhinwyr yn ystod y Rhyfel Cartref rhwng Siarl I a Phengryniaid Cromwell, ond bu rhaid ildio yn 1646. Ar ôl hynny dirywiodd y castell a muriau’r dre nes iddynt droi’n adfeilion. Roedd y trefwyr ers amser wedi gadael eu caer-fwrdeistref ac wedi symud i sefyllfaoedd mwy cartrefol y tu allan i furiau’r dre. Ymhlith y mwyaf a’r cyfoethocaf o drefi Cymru yn oes Elisabeth yr oedd Dinbych yn ganolfan gref o ddiwylliant dadeni a menter, a ffynnodd fel tref farchnad lwyddiannus. Ar ddechrau’r 17eg Ganrif, datblygodd y dre yn ganolfan ar gyfer nifer o grefftau a bu iddynt barhau tan ddyfodiad yr oes ddiwydiannol yn y 19eg Ganrif. Ym 1848 agorwyd Ysbyty Meddwl Gogledd Cymru ger Dinbych, ac yno yr oedd hyd at 1500 o gleifion yn derbyn gofal. Yr oedd nifer o drigolion y dref yn gweithio yno tan 1995 pan gaewyd y safle a’i werthu i gwmni preifat sydd ar fin datblygu’r safle. Erbyn y 1860au Dinbych oedd canolfan bennaf Dyffryn Clwyd ac roedd ar rwydwaith y rheilffordd.

Photos
Cymraeg
Designed by Delwedd
News & Events Archive Group This is Denbigh Enter the Archive Contacts & Links Do you remember?